Sunday, 27 February 2011

Cynhadledd Gynradd Gymraeg TGCh (mamiaith yn unig)

Ar ol rhedeg dwy gynhadledd lwyddiannus Gymraeg, mae Angelsoft wedi penderfynnu rhedeg cynhadledd arall yng Ngwesty'r Stradey Park, Llanelli ar Ddydd Mercher, Mawrth 9ed, 2011 (1.00 - 4.00yp.)

Bwriad y gynhadledd yw dangos sut gall ysgolion ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn datblygu llythrennedd yn fwy effeithiol.



Yn ystod y gynhadledd edrychir yn fanwl ar y posibiliadau o ymestyn profiadau TGCh disgyblion tu hwnt i'r ysgol yn enwedig drwy gydweithio gyda disgyblion mewn ysgolion eraill (SEF).
Huw Morris, athro ymgynghorol TGCh profiadol, fydd yn arwain y gynhadledd unwaith eto.
Yn ystod y prynhawn bydd Huw yn dangos y datblygiadau cyffrous diweddaraf yn ymwneud a 'Just2easy' a'r modd y gall ysgolion rhyngweithio gyda'u gilydd. Bydd Huw hefyd yn dangos ffyrdd i greu cymunedau ar-lein drwy ddefnyddio Llwyfan Dysgu Cymraeg (SEF).

No comments:

Post a Comment